Enw'r Perfformiwr: Panedeni
Enw'r Sioe: Panedeni with Tim Eastwood (A multicultural mix of Arabic and Welsh music)
Disgrifiad y Sioe
Mae Panedeni yn mynd â'r gynulleidfa ar daith gerddorol anhygoel o Gymru i'r Dwyrain Canol ac ymhellach, gan arddangos cymysgedd amlddiwylliannol o gerddoriaeth wreiddiol a cherddoriaeth werin. Mae'r gantores a'r gyfansoddwraig Yasmine Latkowski (y mae ei chyfansoddiadau i'w clywed ar Come Dine With Me Channel 4, BBC Africa Eye, a BBC2 Art of Persia) yn arwain y band, mewn cydweithrediad ag unigolion anhygoel o gefndiroedd amrywiol. "Mae ein digwyddiadau'n ymwneud â chyfoethogi gorwelion a chroesi ffiniau diwylliannol, gan ddileu'r llinellau rhwng cerddoriaeth werin y Dwyrain a'r Gorllewin yr ydym am ei rhannu a'i dathlu. Ein nod yw dod â phobl ynghyd drwy gerddoriaeth a dawns. Bydd pawb yn cael eu croesawu'n gynnes." Bydd Tim Eastwood yn cefnogi Panedeni gan chwarae cerddoriaeth werin Gymreig, y ffiniau, a Llydaw o’r cyfnod canoloesol hyd at y modern ar bibau Cymreig. Mae Tim wedi perfformio mewn cestyll cenedlaethol a phreifat, yr Eisteddfod Genedlaethol, yr Eisteddfod Ryngwladol, Theatr Genedlaethol Cymru, Tattoo Cymru, BBC Radio yn ogystal ag mewn llu o ddigwyddiadau dinesig, masnachol a phreifat.