Enw'r Perfformiwr: Georgia Ruth
Enw'r Sioe: Georgia Ruth
Disgrifiad y Sioe
Bydd Daf Owain yn cefnogi Georgia Ruth. Cerddor o Aberystwyth yw Georgia Ruth, sy'n defnyddio dylanwadau gwerin i greu sain gwbl unigryw. Enillodd ei halbwm cyntaf, Week of Pines, y Wobr Gerddoriaeth Gymraeg yn 2013 ac ers hynny mae hi wedi cydweithio hefo'r Manic Street Preachers, ac wedi perfformio'n rhyngwladol. Yn gynharach eleni, rhyddhawyd Cool Head. Dyma bedwerydd albwm y cerddor, sy'n dogfenni siwrne cathartig trwy'r tywyllwch i'r bore newydd. Mae 'Cool Head', ymadrodd byddai ei thad yn ei ddweud yn aml mewn cyfnodau anodd, yn gasgliad o ganeuon sy'n plethu dylanwadau Americana gyda pop fwy arbrofol. Wedi'i recordio yn stiwdio Sain gyda band arbennig, trefniannau llinynol gan Gruff Ab Arwel, a llais Euros Childs ar ambell drac, dyma albwm hynod bersonol, un sydd wastad yn symud tua'r goleuni.
