Enw'r Perfformiwr: Claire Mace
Enw'r Sioe: Of Swine and Swineherds / Am Foch ac am Feichiaid
Disgrifiad y Sioe
Mae yna lawer o fythau a chwedlau moch, fel yr un am y baedd anferth, Twrch Trwyth, y bu'r rhyfelwr ifanc Culhwch yn ei erlid er mwyn cipio'r crib, y rasel a'r siswrn a eisteddai rhwng ei glustiau brau. Neu Ŵr y Mochyn, yn ddyn liw nos ac yn fochyn liw dydd. Neu'r Tri Gwrddfeichiad Ynys Brydein: Pryderi, Trystan a Coll. Mae'r chwedlau hyn yn cyffwrdd â themâu sy'n fyw ac yn rhochian yn ein byd heddiw: sut rydym yn defnyddio ac yn camddefnyddio adnoddau byd natur; sut rydym yn cydbwyso cynhyrchiant a defnydd; sut mae cyn lleied o bobl bellach yn profi'r llawenydd o gadw mochyn yn eu gardd gefn. Ganed y gantores, storïwraig, athrawes ioga a dysgwraig Gymraeg, Claire Mace ger Aberdeen ac mae hi bellach wedi'i lleoli ym Methesda. Mae hi wedi'i swyno gan hen ganeuon a straeon a'u grym i'n helpu ni i ddod o hyd i'n ffordd yn yr amser presennol. Mae'r sioe 45-90 munud hon yn Saesneg gyda pheth Cymraeg yn plethu straeon a chaneuon moch a'u ceidwaid, yn arogli o hud a'r bydoedd tu hwnt i'n byd ni.