Enw'r Perfformiwr: Elin a Carys

Enw'r Sioe: Elin a Carys

Disgrifiad y Sioe

Elin a Carys, chwiorydd o Sir Drefaldwyn, wedi bod yn canu gyda’i gilydd cyhyd ag y gallant gofio. Cyrhaeddon nhw rownd derfynol Brwydr y Bandiau Gwerin yn yr Eisteddfod y llynedd ac ers hynny, maen nhw wedi chwarae nifer o gigs ledled Cymru, gan drefnu a pherfformio caneuon gwerin traddodiadol Cymreig a darnau gwreiddiol. Gyda ystod o offerynnau mewn llaw, maent yn dod â chymysgedd o faledi twymgalon ac alawon calonogol, llawen, a’u lleisiau’n plethu harmoniau drwyddi draw.

Delwedd ar gyfer sioe


na
no
Yn wreiddiol o Faldwyn, mae cerddoriaeth gwerin yn y gwaed yn nheulu Elin a Carys. Gyda’u tad yn aelod o Plethyn, magwyd diddordeb mewn cerddoriaeth acwstig gan y merched, ac roedd dechrau perfformio fel deuawd yn gam naturiol iddynt. Wedi’u dylanwadu gan Lankum, mae naws Cymreig a rhyngwladol gref i’w caneuon, bydd cymysgedd o drefniannau a chaneuon gwreiddiol, a harmonïau cywrain Elin a Carys yn sicr o’ch hudo.