Enw'r Perfformiwr: Tamar Williams

Enw'r Sioe: Mali a'r Môr / Mali and the Sea

Disgrifiad y Sioe

Mewn a mas, mewn a mas: mae’r môr yn dod â phethau ac yn cymryd pethau i ffwrdd. Mae Mali yn gwybod hyn. Mae ei chartref annwyl ar yr ynys yn llawn trysorau wedi’u gadael gan y llanw. Bob dydd, mae Mali, gyda’i doli fach Megan wrth ei hochr, yn gwylio’r môr: yn aros i gwch pysgota Dada ddod adref. Ond un diwrnod, mae’r tonnau’n troi’n stormus, a dydy cwch Dada ddim yn ymddangos. A gall Mali a Megan ddod o hyd i ffordd o ddod ag ef adref? Stori am ryfeddodau’r moroedd mawr i bobl bach yw hon, wedi’i hadrodd yn Gymraeg a Saesneg, trwy gân, chwedleua, a phypedwaith. Yn seiliedig ar lyfrau poblogaidd “Molly” gan Malachy Doyle, ar gyfer plant 2+ a'u teuluoedd. Mae'r sioe ar gael yn ddwyieithiog neu'n uniaith Gymraeg.



Nid oes angen goleuadau ffurfiol ar y sioe - mae'n gallu cael ei haddasu ar gyfer ardaloedd perfformio ffurfiol ac anffurfiol. Gan fod y sioe yn cynnwys pypedwaith cysgod, byddem yn dod ag offer penodol.
Mae'r sioe wedi'i greu ar gyfer llyfrgelloedd, neuaddau ysgol, canolfannau cymunedol, a gofodau theatr bach. Mae angen gofod chwarae o tua. 3m wrth 3m, ond gallwn addasu i fannau llai os oes angen. Rydym fel arfer yn argymell rhoi plant i eistedd ar fatiau neu flancedi yn y blaen ac oedolion y tu ôl, oherwydd mae'n well gweld y pypedwaith o'r llawr. Amser mynd i mewn ac allan yw 30 munud, gyda rhai eitemau trwm, felly gwerthfawrogir parcio gerllaw.
Ydyn - byddwn yn darparu posteri dwyieithog, deunydd hyrwyddo gan gyhoeddwyr y llyfr, a thaflenni, yn ogystal â dau drelar y gellir eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Yes - we will provide bilingual posters, promotional material from the book's publishers, and flyers, as well as two trailers that can be shared on social media.
Mae Tamar Eluned Williams yn chwedleuwr gwobrwyedig a chyfarwyddwr theatr. Mae hi'n byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio'n ddwyieithiog. Adrodda Tamar straeon yng ngwyliau, ysgolion, theatrau, coedwigoedd, ar draethau a (y lle mwyaf od eto) dec uchaf bws yn Birmingham. Ennillodd Tamar y wobr genedlaethol Storiwr Ifanc y Flwyddyn yn 2013 a'r Wobr Esyllt Harker gan Wyl Chwedleua Rhyngwladol Beyond the Border y 2016.