Enw'r Perfformiwr: Sherman Theatre

Enw'r Sioe: Pinocchio

Disgrifiad y Sioe

Cynhyrchiad Crëwyd gan y Sherman PINOCCHIO Fersiwn newydd gan Jennifer Lunn Cyfieithiad Cymraeg gan Hanna Jarman Profwch un o straeon mwyaf hudolus y byd yn ein Stiwdio glyd y Nadolig hwn. Mae Pinocchio yn dyheu am gael bod yn fachgen go iawn, er mwyn gweld y byd mawr. Mae e eisiau bod ‘yn dda, yn garedig ac am ddweud y gwir’, ond ar ôl dweud celwydd bach mae ei drwyn yn tyfu ac mae’n mynd ar antur wyllt yn llawn peli eira, gemau gwirion, ffrindiau direidus newydd a llond trol o hwyl. A fydd Pinocchio yn dysgu’r gwahaniaeth rhwng yr hyn sy’n iawn a’r hyn sy’n anghywir ac yn cyrraedd adre mewn pryd i’r Nadolig? Mae’r ail-gyflwyniad twymgalon newydd yma o Pinocchio yn llawn dop â cherddoriaeth, chwerthin a llu o gymeriadau poblogaidd a ddaw’n fyw diolch i gast o actorion-cerddorion. Pinocchio yw’r cyflwyniad perffaith i ryfeddod theatr fyw i blant 3-6 oed. Ar gael yn Gymraeg a Saesneg mewn perfformiadau ar wahân.

Delwedd ar gyfer sioe


Yes, marketing assets and printed fliers & posters.
Bu sawl newid yn y Sherman yn ddiweddar; rydym bellach yn edrych i’r dyfodol yn eofn. Byddwn yn cynhyrchu dramâu clasurol a chyfoes, yn y prif dŷ ac yn y theatr stiwdio. Byddwn hefyd yn datblygu ac yn cynhyrchu ysgrifennu newydd, gyda ffocws cryf ar ddramodwyr Cymreig neu ddramodwyr sy’n byw yng Nghymru. Byddwn yn cyd-gynhyrchu gyda phartneriaid creadigol y mae eu gweledigaeth yn cydgordio â’n gweledigaeth ni, gan gynyddu effaith a chyrhaeddiad ein cynyrchiadau. Byddwn yn creu theatr a fydd yn siarad â dinasyddion Caerdydd, Cymru, a’r Deyrnas Unedig Ehangach