Enw'r Perfformiwr: Cadog
Enw'r Sioe: Cadog
Disgrifiad y Sioe
Perfformiad o gerddoriaeth Gwerin Amgen gan CADOG. Mae CADOG yn perfformio cerddoriaeth genre Folk-Jazz gan roi cynnig ei hun ar gerddoriaeth draddodiadol gymreig. Mae’r perfformiad yn cynnwys gitar, sacsaffôn, lleisiau a chlocsio traddodiadol.
Ffurfiwyd y band gwerin Cadog i gystadlu ym Mrwydr y Bandiau Gwerin yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.
Enillodd Cadog y gystadleuaeth newydd yma!
Mae’r ddau frawd, Iestyn a Morus, yn rhoi stamp eu hunain ar gerddoriaeth draddodiadol gyda chyfuniad o chwarae gitâr, sacsoffon, canu a chlocsio.
Ers yr Eisteddfod, mae Cadog wedi perfformio fel rhan o daith PYST gyda Gwilym Bowen Rhys.