Enw'r Perfformiwr: Adverse Camber in association with Theatrau Sir Gâr

Enw'r Sioe: Stars and their Consolations

Disgrifiad y Sioe

Mae "Stars and their Consolations" yn ail-gyflwyniad mawreddog, personol a hypnotig o chwedlau Groegaidd sy’n plethu straeon hynafol, ac a adroddir yn gywrain gan y storïwyr o fri, Daniel Morden a Hugh Lupton. Mae’n cynnwys seinwedd electro-acwstig iasol a grëwyd gan y cyfansoddwr o Gymru, Sarah Lianne Lewis. Dyma ffordd arbennig a hygyrch i brofi straeon a rannwyd wrth y pentan am ganrifoedd. Teithiwch i awyr y nos gyda straeon sydd wedi goleuo’r tywyllwch ers miloedd o flynyddoedd. Daw chwedlau Groegaidd am gytserau, megis Orion a Pegasus, a’r Llwybr Llaethog, yn fyw drwy’r antur swynol a hudol hwn. Gwyliwch y duwiau’n chwarae’n ddidrugaredd gyda marwolion, gyda straeon am chwant, balchder ac angerdd. Bydd y cyfan yn eich gadael ar bigau’r draen eisiau darganfod mwy.



We are supporting a number of BSL performances on the tour, and are happy to discuss this with programmers.
Rydym yn dylunio cynllun goleuo a thaflunio ar gyfer gofodau theatr sydd â’r cyfarpar technegol priodol. Rydym yn disgwyl teithio fersiwn sy'n cynnwys adrodd straeon byw a cherddoriaeth yn unig ar gyfer y rhan fwyaf o leoliadau Noson Allan. Fodd bynnag, rydym yn hapus i drafod hyn gyda hyrwyddwyr yn seiliedig ar anghenion a phosibiliadau technegol pob lleoliad.
Gofod perfformio: yn ddelfrydol 4m (lled) x 2m (dyfnder) wrth 3m (uchder) ond hyblyg i fannau mwy neu lai o faint. Byddwn yn teithio gydag un technegydd. Mae'r sioe yn debygol o gael ei seinchwyddo i gyflawni'r cydbwysedd cywir rhwng cerddoriaeth wedi'i recordio ac adrodd straeon byw.
We offer a full mix of flyers/posters and digital marketing and will discuss this with you, to provide the right mix for your audiences. We have a dedicated marketing manager attached to the show. We are also leading an engagement project across Wales in Wales Dark Skies week (13 - 22 Feb 2026) which could connect with your community ahead of performances. // Rydym yn cynnig cymysgedd llawn o daflenni/posteri a chynnwys marchnata digidol a byddwn yn trafod hyn gyda chi, i ddarparu'r cymysgedd cywir ar gyfer eich cynulleidfaoedd chi. Mae gennym reolwr marchnata ymroddedig ynghlwm wrth y sioe. Rydym hefyd yn arwain prosiect ymgysylltu ledled Cymru yn ystod Wythnos Awyr Dywyll Cymru (13 - 22 Chwefror 2026) a allai gysylltu â'ch cymuned cyn y perfformiadau.
Mae Adverse Camber yn angerddol am storïau, cerddoriaeth ac artistiaid eithriadol sy’n anadlu anadl einioes iddynt. Rydym yn cefnogi, datblygu a theithio gyda pherfformiadau byw ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban i godi ymwybyddiaeth o gyfoeth diwylliannau llafar a’r artistiaid cyfoes rhagorol sy’n cael eu hysbrydoli gan y deunydd yma. Mae canolfan ein cwmni yn Nyffryn Derwent sy’n safle treftadaeth byd, yn Cromford, Swydd Derby. Rydym yn gweithio’n glos gyda phartneriaid yng Nghymru, gan gynnwys aelodau creadigol o’r tîm a’r partneriaid sefydliadol diweddar Bando, Felin Uchaf, Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth, Canolfan Chwedleua George Ewart Evans, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd ac artistiaid unigol yn cynnwys Phil Okwedy, Daniel Morden, Tamar Eluned Williams, Michael Harvey, Kestrel Morton ac eraill. Ein taith ddiweddaraf yng Nghymru oedd “The Gods Are All Here” Phil Okwedy. Rydym hefyd wedi cefnogi ffurfio Bando, sy’n cynnig cefnogaeth gynhyrchu wrth i’r cwmni newydd hwn ffurfio a theithio gyda Y Llyn. Mae gennym nifer o brosiectau newydd yn cael eu datblygu. Rydym wedi derbyn cymorth gan amrywiaeth o gyllidwyr gan gynnwys nifer o grantiau gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Arts Council England, cyllidwyr y Loteri Genedlaethol gan gynnwys y Gronfa Dreftadaeth, Arian i Bawb ac Ymddiriedolaethau.