Enw'r Perfformiwr: Guto Dafis

Enw'r Sioe: Caneuon o lawysgrifau Iolo Morgannwg

Disgrifiad y Sioe

Caneuon o lawysgrifau Iolo Morgannwg, gyda cyfeiliant melôdion (acordion bach diatonig â botymau).

Delwedd ar gyfer sioe


Y mae Guto Dafis yn canu a chwarae'r melôdion (acordion bach diatonig). Mae ganddo storfa eang o ganeuon ac alawon traddodiadol Cymreig, Mae’n gallu perfformio ar ei ben ei hun neu mewn deuawd gyda gitârydd Daniel KilBride. Y mae Guto hefyd yn gweithio fel storïwr.