Enw'r Perfformiwr: Bwncath

Enw'r Sioe: Bwncath

Disgrifiad y Sioe

Ffurfiwyd yn 2014 yn ardal Caernarfon. Rhyddhawyd ein albwm gyntaf, Bwncath, yn haf 2017 a daeth yr albwm ddiweddaraf, Bwncath II, allan ym mis Mawrth 2020. Cafodd yr albwm gyntaf ei chynhyrchu gan Robin Llwyd - a fo ac Elidyr wnaeth recordio bron â bod popeth sydd arni. Yn 2019, cafwyd ymateb gwych i’r ddwy sengl sef ‘Clywed Dy Lais’, a’r gân fuddugol yng nghystadleuaeth Cân i Gymru, ‘Fel Hyn ‘Da Ni Fod’, a’i pherfformio fel band yn yr Ŵyl Ban Geltaidd. Yn ogystal â hyn, rhyddhawyd fideo arbennig (wedi’i animeiddio gan Lleucu Non) i’r gân ‘Dos Yn Dy Flaen’ i ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2020, a chyrhaeddodd y dair cân y Clwb Can Mil o ffrydiau ar Spotify.

Delwedd ar gyfer sioe