Enw'r Perfformiwr: Cath Little

Enw'r Sioe: Morgan La Fay and Other Goddesses

Disgrifiad y Sioe

Noson o straeon yng nghwmni Cath Little Ymunwch ag un o brif storïwyr Cymru i ail-ddychmygu myth Morgan dduwies o Annwfn, fel Mam Dduwies Geltaidd, Swynwraig a Gwrach. Yr holl ffordd o Gaerdydd, mae sioe newydd sbon Cath Little wedi’i hysbrydoli gan y Chwedlau Cymreig a’r chwedlau Arthuraidd Mae’r hen chwedl Gymreig am y naw chwaer gysegredig sy’n byw ar ynys hudol yr afalau, Ynys Afallon, yn dal i blethu swyngyfaredd dros amser. Enw’r chwaer hynaf yw Morgan. Mae un o’n darnau hynaf o fytholeg yn adrodd hanes y fam, Modron, sydd wedi colli ei phlentyn, Mabon. Mae rhai ymchwilwyr yn meddwl bod Morgan a Modron yw’r un person ac mai hi yw cof llên gwerin am Fam Dduwies Geltaidd. Ceir cyfeiriadau eraill at Morgan mewn chwedlau canoloesol cynnar, lle’r oedd Morgan yn adnabyddus am ei gwybodaeth a'i grym fel iachawr, fel Morgan y Doeth. Ond mewn adroddiadau diweddarach, mae Morgan yn cael ei phardduo fel chwaer sbeitlyd a gwrach ddrwg. Sut a pham y newidiodd stori Morgan? Sut gall stori Morgan ein helpu i ddeall ein straeon ein hunain? Yn y plethiad meistrolgar hwn o fytholeg hynafol o Gymru a gwledydd Celtaidd eraill, mae Cath Little yn atgyfodi straeon Morgan dduwies o Annwfn a duwiesau eraill.

Delwedd ar gyfer sioe