Enw'r Perfformiwr: Christopher Horner (violin)
Enw'r Sioe: Music for Ten Strings
Disgrifiad y Sioe
Mae Christopher Horner yn feiolinydd clasurol sy'n cynnig cyngherddau mewn deuawd gyda phiano, gitâr neu ffidil unigol. Mae wedi chwarae ledled y DU, yn Ewrop, Asia a De Affrica ac wedi chwarae mewn amrywiaeth o leoliadau megis Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, clybiau cerdd, neuaddau eglwys a gorsafoedd mynydd Indiaidd. Mae'n hapus i addasu ei ddewisiadau rhaglenni i hoffterau'r gynulleidfa o fewn ei repertoire eang sy'n amrywio o Bach i Roxburgh. Mae'n hoffi cyflwyno'r gweithiau y mae'n eu chwarae, fodd bynnag gall ddarparu nodiadau rhaglen os dymunir. Gyda’r amrywiaeth o gynulleidfaoedd y mae wedi perfformio ar eu cyfer, mae Christopher yn credu bod rhwystrau canfyddedig o hyd o ran cyngherddau clasurol, ac mae’n mwynhau gweld ei berfformiadau’n eu chwalu!