Enw'r Perfformiwr: Dylan Cernyw

Enw'r Sioe: DYLAN CERNYW

Disgrifiad y Sioe

Sioe 45 munud (mae posib gwneud mwy) o gerddoriaeth yw hwn. Hanes fy addysg, perffomiadau, storiau difyr ac hanes y delyn. Cymysg o gerddoriaeth or clasuron, traddodiadol, gwerin, jazz, rag, pop a cherddoriaeth or filmiau ac sioeau.

Delwedd ar gyfer sioe


na
n/a
mae posib oes
Telynor, Perfformiwr ac athro telyn llawrydd yw Dylan Cernyw sydd wedi perfformio yn Iwerddon, Ffrainc, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Canada, Prague, Tsieina a'r Swistir. Mae’n gyfeilydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Yr Urdd ar Ŵyl Gerdd Dant ers 1995. Ymdangosodd fel gŵr gwadd yng Ngwyl o Fil o leisiau yn Llundain ac mae wedi perfformio gydag artistiaid megis Bryn Terfel, Katherine Jenkins, John Owen Jones, Shân Cothi, Rhys Meirion, Rhydian Roberts dim ond in enwi rhai. Mae wedi cynhyrchu 10 albwm i gyd, 3 unigol, 4 albwm Piantel ac 3 albwm gyda delynores Gwenan Gibbard ar gyfer Sunrise Music gafodd ei rhyddhau yn Hong Kong. Ar wahân i rhain, mae Dylan wedi ymddangos ar nifer fawr o gryno ddisgiau fel cyfeilydd. Yn ogystal ac unawdydd a chyfeilydd mae’n cyd weithio gyda rhain o’n artisitiaid mwyaf blaenllaw. Mae’n un hanner o’r ddeuawd gerddorol "Piantel" sydd wedi bod yn perfformio gyda'i gilydd ers dros 20 mlynedd, rhan or ddeuawd Telyn Jazz Arpe Dolce, Pedwarawd telyn Telyn4 ac yn perfformio mewn cabaret act Two Blondes and a Harp. Yn 2024 ffurfwyd grwp newydd dan yr enw Tresillo sydd yn cynnwys y soprano Sioned Terry ar Gitarydd Wyn Pearson, Mae’n hoff iawn o gydweithio mewn sawl arddull ac rhai oi berfformiadau mwyaf diweddar oedd gyda’r grwp Lo-Fi Jones Yn ogystal a perfformio a thrafeilio mae’n diwtor Telyn a Piano gyda Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych ac yn arweinydd Ensemble Telyn y gwasanaeth. Mae’n falch o fod wedi gallu sefydlu’r prosiect 4 blynedd yma ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd y sîr i dderbyn hyfforddiant telyn am flwyddyn ac am ddim I greu diddordeb ymysg disgyblion ifanc y sîr, ac hefyd yr arfer o gyd chwarae.