Enw'r Perfformiwr: Jo Fong
Enw'r Sioe: Neither Here Nor There
Disgrifiad y Sioe
Crëwyd a chyflwynwyd gan Jo Fong a Sonia Hughes. Eddie Ladd a Sara McGaughey fydd yn arwain y perfformiadau yn Gymraeg “A leap of faith” Cylchgrawn CCQ “A rare experience” Art Scene in Wales Yn Neither Here Nor There [Heb Fod Fan Hyn na Man Draw], mae Jo a Sonia’n gofyn cwestiynau am le, ble rydym yn byw, o ble ddaethom ni, o ble y daw’n tadau...trafodwn broblemau anesboniadwy enfawr y byd ac yn yr un modd, ein cartref, ein cymdogion, ffensys ein gerddi. Mae’r gwaith yn annog y theatr agos atoch o glywed un unigolyn ac ar hyd y sioe, teithiwn drwy sawl llais, mae’r gynulleidfa’n rhan ohono ac rydym yn derbyn sawl safbwynt, sawl bywyd. Sut gallwn ni fyw gyda’n gilydd? Mae’n ddoniol, yn agos atoch, yn gynnes, yn wleidyddol, ychydig yn welw, grymus, di-rym ac amyneddgar. Derbyniwyd y gwaith yn agored, mae’r cynulleidfaoedd wedi’i chael yn ddoniol ac eto maen nhw’n tyrchu’n ddwfn ac yn onest yn eu hymatebion ac yn hael wrth wrando. Mae’r naratif yn newid yn anochel o un sioe i’r llall ac mae eiliadau Jo a Sonia’n cael eu gwneud yn fyrfyfyr dros rai cwestiynau llywio allweddol. Maen nhw’n gosod y rheolau ac fel ensemble gyda’r gynulleidfa, chwaraewn y gêm. Mae’n swnio’n syml ond fel y mae Jo a Sonia’n crybwyll ar ddechrau eu sioe “Mae cymhlethdod yn cymryd amser”. Comisiynwyd Neither Here Nor There [Heb Fod Fan Hyn na Man Draw] gan Peilot a LAUK Diverse Actions. Mae Diverse Actions yn fenter Live Art UK sy’n hyrwyddo uchelgais diwylliannol amrywiol, rhagoriaeth a thalent yn Live Art. Mae Diverse Actions yn adeiladu ar rôl hollbwysig Live Art fel ymarfer arloesi artistig a lle i fynegi syniadau cymhleth o hunaniaeth ddiwylliannol. Am fwy o wybodaeth, adolygiadau a delweddau, cliciwch YMA: http://www.jofong.com/cy/portfolios/neither-here-nor-there/