Enw'r Perfformiwr: Martin Decker Shows

Enw'r Sioe: Martin Decker: DAD

Disgrifiad y Sioe

Martin Decker: DAD Gan Keiron Self a Kevin Jones Beth sy’n gwneud tad gwych? Mae Martin yn meddwl ei fod yn gwybod ac yn benderfynol o rannu’r wybodaeth. Mae’r daith ddoniol-dywyll, lawn teimlad hon yn archwilio’r tadau wnaeth siapio Martin - o Darth Vader i’w arwr yn ei blentyndod, Indiana Jones, o’r Tad Cŵl i Dad y Dawnsiwr. Gan gynnwys ail greu ffilmiau yn fyw, dynwarediadau llai na pherffaith o Harrison Ford a gwahoddedigion annisgwyl ar y sgrin, mae’r sioe hon yn siarad â phob tad sydd erioed wedi ystyried a yw’n ddigon. Ond i Martin mae’n ymddangos bod llawer mwy yn y fantol – ai achub ei fab, neu ei achub ei hun sydd dan sylw?



We can look into captioning the show at an additional cost
Self contained
Yes, we have a number of marketing assets
Keiron Self yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel deintydd annifyr Roger Bailey yn y gomedi sefyllfa My Family ar BBC1. Mae ei gredydau teledu yn cynnwys Dal y Mellt (S4C/Netflix), The Undeclared War (Channel 4), War Gamers (Sky History), Still Open All Hours (BBC1), Casualty (BBC1), a The Mimic (Channel 4). Ar y llwyfan, mae Keiron wedi serennu mewn rolau blaenllaw, gan gynnwys Bob Acres yn cynhyrchiad West End o The Rivals gan Syr Peter Hall, Heisenberg yn Copenhagen (Theatr Cadair), ac Yvan yn Art (Black Rat). Mae hefyd wedi gweithio'n helaeth gyda Chwmni Theatr Mappa Mundi, gan chwarae Hamlet, Harri V, Oberon (A Midsummer Night’s Dream), a Valmont (Dangerous Liaisons).