Enw'r Perfformiwr: Theatr Bara Caws

Enw'r Sioe: Ar Geinioga'

Disgrifiad y Sioe

Ar Geinioga' gan Manon Wyn Williams. 1884. Gwireddwyd dymuniad Owain Glyndŵr bum can mlynedd ynghynt i sefydlu dwy Brifysgol yng Nghymru - un yn y de a’r llall yn y gogledd - ac agorwyd drysau Coleg Prifysgol Gogledd Cymru am y tro cyntaf yn hen westy’r Penrhyn Arms ym Mangor. Wrth y llyw roedd Gwyddel ifanc saith ar hugain oed. Fe ymroes ei fywyd i waith y brifysgol am dros ddeugain mlynedd gan gofleidio’r bywyd a’r diwylliant Cymreig o’i amgylch. Ef, yn anad un dyn arall, oedd yn gyfrifol am dwf a datblygiad y sefydliad yn ogystal â’i arwain drwy sawl storm. Harry Reichel, Prifathro cyntaf Coleg y Gogledd, sy’n adrodd hanes sefydlu’r brifysgol a hynny ar geiniogau prin chwarelwyr a ffermwyr yr ardal. Actor - Llion Williams Cyfarwyddo - Betsan Llwyd

Delwedd ar gyfer sioe


Byddwn yn darparu posteri a rhaglen papur ac electroneg
Cwmni Theatr Cymuned Proffesiynol Cymraeg yw Theatr Bara Caws. O’i gartref yng Nghaernarfon mae’r cwmni wedi bod yn cynnig cynyrchiadau wedi eu cynllunio a’u perfformio yn arbennig i gynulleidfaoedd Cymraeg yn eu cymunedau ers dros 45 mlyned. Mae Theatr Bara Caws yn gwmni cydweithredol sydd â chnewyllyn parhaol o 5 aelod llawn amser cyflogedig. Gweinyddir y cwmni o dan oruchwyliaeth bwrdd rheoli, a chaiff ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Chyngor Gwynedd, Chyngor Môn, a nifer o Gynghorau Cymuned. Bu’n gofrestredig fel elusen ers 1977. Er mai Gwynedd yw ein dalgylch naturiol, mae Bara Caws yn teithio Cymru gyfan yn rheolaidd, yn perfformio mewn neuaddau pentref, canolfannau cymdeithasol, theatrau, ysgolion a chlybiau gan fynd â’n cynyrchiadau i ardaloedd sydd wedi eu hamddifadu o theatr broffesiynol fyw. Cynigir y perfformiadau am ffi resymol i unrhyw gymdeithas neu fudiad sydd yn dymuno gwahodd Bara Caws i’w hardal. Disgwylir i’r mudiadau sicrhau canolfan addas, dosbarthu tocynnau a hybu’r cynhyrchiad yn lleol gyda phosteri a deunydd marchnata a baratoir gan y cwmni. Mae unrhyw elw ddaw o’r nosweithiau yn mynd yn syth i achosion da lleol. Tros y blynyddoedd mae Bara Caws wedi creu rhwydwaith cryf o drefnwyr dros Gymru i gyd a phob amser yn awyddus i glywed gan unigolion sy’n fodlon mentro. Teimlwn fod y system hon o drefnu yn gweithio cystal gan fod y trefnwyr lleol gymaint mwy cyfarwydd â’u milltir sgwâr, ei disgwyliadau a’i chynulleidfaoedd. O ganlyniad mae trefnydd da yn gweithredu fel dolen gyswllt rhwng Bara Caws a’r gymuned, gan sicrhau cynulleidfaoedd cryfach a nosweithiau llwyddiannus. Mae Bara Caws yn llwyfannu o leiaf tri chynhyrchiad y flwyddyn, gyda’r arlwy yn cynnwys amrediad eang o ddeunydd, o gomedïau teuluol a dramâu ysgafn i sgwennu newydd heriol ac wrth gwrs ein sioeau clybiau. Nod y cwmni yw cyflwyno gwaith gwreiddiol a pherthnasol i’r trawstoriad ehangaf bosib.