Enw'r Perfformiwr: Katie Payne
Enw'r Sioe: My Mix(ed up) Tape
Disgrifiad y Sioe
Mae Phoebe yn ôl adref yn y Cymoedd ac yn cael ei gorfodi i fynychu priodas ei chefnder, Caroline. Y tu mewn i Briodas Berffaith Clwb y Gweithwyr, mae pethau eisoes yn dadfeilio - mae'r bownsar wedi ei gwahardd hi, mae Caroline yn benderfynol o wneud Phoebe yn broblem, ac ie - Jamie “Llyfwr Gwddf” Richards yw brenin y negyddiaeth o hyd. Ond mae heno'n wahanol. Rhwng y bwffe amheus, y cellwair creulon, a gwleidyddiaeth deuluol, mae Phoebe yn ceisio goroesi'r noson. Ond mae mwy yn digwydd na hen fflamau a hen ddrwgdeimlad. O dan y ddiod a'r caneuon, mae hi'n cario pwysau cyfrinach - ac yn hwyr neu'n hwyrach, mae'n mynd i ddod i'r amlwg. Nid stori daclus am “fynd adref” yw hon. Mae'n amrwd, yn anghwrtais, ac yn rhwygo'r distawrwydd o amgylch dicter benywaidd, llanast teuluol, a'r celwyddau rydyn ni'n eu dweud i oroesi. Wedi'i hadrodd trwy dâp cymysg o atgofion a chaneuon eiconig, mae My Mix(ed up) Tape yn ddrama newydd ddoniol, llawn egni am hunaniaeth, dosbarth, cynddaredd, a pherthyn yng Nghymru fodern. Mae My Mix(ed up) Tape wedi'i hysgrifennu a'i pherfformio gan Katie Payne (MUMFIGHTER - Grand Ambition, CROW GIRL - Amazon), gyda set DJ fyw gan DJ ONAI. Wedi'i chyfarwyddo gan y cyfarwyddwr arobryn a chlodwiw, Stef O'Driscoll (Paines Plough, Nabokov).
