Enw'r Perfformiwr: Familia

Enw'r Sioe: Clown School

Disgrifiad y Sioe

Ar ran Familia de la Noche, hoffwn eich croesawu i dymor newydd o weithdai i’r teulu. Byddwch yn barod i ystwytho eich cyhyrau digrif a darganfod eich sili mewnol wrth i ni diclo a dadmer eich dychymyg! Gall ein hyfforddiant dwl-dros-ben ddad-gloi eich creadigrwydd, a chyn pen dim byddwch chi’n chwerthin bob cam o’r ffordd tuag at glown-deb gwirioneddol. Cofrestrwch heddiw fel un o’n disgyblion digrifwch, a dewch i hawlio eich gradd gwirion o Ysgol Glownio Familia! Mae pob sesiwn yn awr o hyd ac rydym yn gallu darparu sawl sesiwn mewn un diwrnod. Mae'r Ysgol Glownio yn ffordd wych o annog meddwl yn greadigol a datrys problemau – ac yn bwysicaf oll, mae'n llwyth o hwyl! "Familia De La Noche's clown school allowed library customers to unlock creativity, silliness and storytelling in the best possible way. The session was well run and filled the library with laughter" Swansea Libraries

Delwedd ar gyfer sioe


None
We provide digital promotional materials and social media content. We do not provide print.
Mae Familia yn gwmni theatr teuluol arobryn, a’i gartref yng Nghymru, sydd yn darparu sioeau teithiol a phrosiectau addysgu ar draws y DU. Mae gan y cwmni dros 15 mlynedd o brofiad yn gweithio efo Artistiaid a Chlowniau mwyaf blaengar Prydain, yn darparu hyfforddiant ac adloniant mewn lleoliadau fel Greenwich Theatre, Canolfan Mileniwm Cymru, Didcot Arts Centre, Theatre Peckham a Wiltons Milsic Hall yn gyfochr ag ysgolion a chanolfannau cenedlaethol.