Enw'r Perfformiwr: Mewn Cymeriad/In Character
Enw'r Sioe: KATE
Disgrifiad y Sioe
"Credaf mai fy mywyd i fy hun yw’r thema fwyaf y gwn amdani. Nid oes dim canolig yn digwydd yn fy mywyd i.” Drama un person am Kate Roberts - gwerinwraig genedlaetholgar a roddodd lais i’r bobl gyffredin trwy ei gwaith. Er fod Cymru wedi mynnu rhoi statws barchus iddi, rebel styfnig oedd Kate yn y bôn - dynes o flaen ei hamser yn byw a gweithio mewn byd o ddynion.
Mae Mewn Cymeriad yn gwmni theatr sy’n llwyfannu sioeau am gymeriadau a straeon o hanes Cymru
Pan gychwynnodd y cwmni nôl yn 2014, y bwriad oedd darparu sioeau rhyngweithiol, un dyn/un ferch, i ysgolion cynradd trwy Gymru gyfan, gan gynnig awr addysgiadol ac adloniadol i blant. Erbyn hyn, mae gan y cwmni ystod eang o gyflwyniadau dramatig ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol, yn blant ac oedolion, oll yn canolbwyntio ar gymeriad neu stori o hanes Cymru – o gyfnod y Celtiaid i gofnodi 20 mlynedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Man cychwyn yw’r sioeau ar gyfer astudiaeth bellach, ac i gydfynd â phob cymeriad mae pecyn addysgol/gweithgareddau wedi’i baratoi yn ofalus fel ei fod yn berthnasol i ofynion llythrennedd a rhifedd y cwricwlwm Cymreig, gan ddarparu adnoddau newydd i athrawon i addysgu ac i ysbrydoli plant i ddysgu mwy am hanes Cymru.