Enw'r Perfformiwr: Arfon Gwilym
Enw'r Sioe: Sesiwn Hosanna yng nghwmni Arfon Gwilym, Sioned Webb a Mair Tomos Ifans
Disgrifiad y Sioe
Perfformiadau o ganu Plygain yng nghwmni'r meistri, Arfon Gwilym, Sioned Webb a Mair Tomos Ifans, a hynny ar drothwy tymor y Plygain. Arfon Gwilym fydd yn datgelu hanes mesurau fel y Ceiliog Gwyn, Susan Lygatddu, Llygoden yn y Felin ac ati. Sioned Webb fydd yn egluro ieithwedd y canu carolau gan ddangos y gwahaniaeth rhwng carolau Plygain a charolau cyfoes. Mae Mair Tomos Ifans wedi darganfod carolau Plygain mewn hen gyfnodolion a chasgliadau personol, carolau nad ydynt wedi gweld golau dydd ers blynyddoedd.
Yn ganwr gwerin o deulu cerddgar o Sir Feirionnydd, mae gan Arfon stor o alawon gwerin ar ei gof. Mae'n ganwr cerdd dant a phlygain hefyd ac yn frwd dros gadw'r arddull draddodiad o gyflwyno.
