Enw'r Perfformiwr: Rhi Jorj

Enw'r Sioe: Rhi Jorj a'r Band

Disgrifiad y Sioe

Dyma fand sydd gyda sŵn gwerin modern gyda elfen o jazz a phop yn gymysg mewn caneuon gwahanol. Mae Rhi Jorj yn cyfansoddi caneuon melodaidd a synhwyrol gyda geiriau teleynegol a negeseuon yn llifo trwyddynt. Mae'r band wedi bod yn perfformio yn fyw ers Mawrth '25 ac wrth eu boddau yng nghwmni cynulleidfaoedd bach neu mawr gan fynd ar a'r gynulleidfa ar daith ac yn ran anatod o'r perfformiad. Clywir Billy Thompson yn creu synnau gwefreiddiol ar ei veiolin mewn ambell i gân. Mae Eryl Jones yn chware ei fanjo, mandolin a gitar gan greu awyrgylch arbennig a Paul Cooke yn creu dawns gyda'i fas dwbwl yn gefndir cryf i'r cwbwl.Mae gan Rhi lais unigryw sy'n lleddfu a hudo trwy ei holl ganeuon. Mae Rhi Jorj a'i band yn sicr o gynnig gwledd a mwynhad gyda safon uchel o berfformiad bob tro. Mae EP Amser, ac albwm Ysgafn ar gael ar y llwyfannau cymdeithasol yn ogystal a CD o Ysgafn.



Bydd y gerddoriaeth yma yn bendant yn addas i bobl anabl fwynahu a gwrando arno.
Mae deunydd hyrwyddo ar gael sef lluniau, bio,fideo,posteri.
Cyfansoddwraig a chantores o ardal y Bala ydi Rhi Jorj. Mae ei cherddoriaeth yn gymysgedd o werin modern a chaneuon melodaidd . Mae ei llais unigryw, y geiriau a negeseuon y caneuon yn llifo yn gref trwyddynt. Mae ganddi fand sy’n cynnwys ei gwr, y feiloinydd Billy Thompson yn ogystal a Eryl Jones ar y gitar, banjo a mandolin ar adegau a Paul Cooke ar y bas dwbwl. Mae modd cael drymiwr i ymuno yn ogystal os oes gofyn a lleoliad digon o faint. Mae EP Rhi sef ‘Amser’ eisioes ar gael yn ddigidol a hefyd yr albwm ‘Ysgafn’. Dyma fand sydd yn mwynhau rhannu eu cerddoriaeth gyda chynulleidfaoedd lu gan roi gwledd o safon uchel gyda perfformiad a phrofiad cofiadwy bob amser.