Enw'r Perfformiwr: Mynadd
Enw'r Sioe: Mynadd
Disgrifiad y Sioe
Perfformiad cerddorol gan Mynadd, grŵp cyfoes ac ifanc. Bydd y perfformiad yn cynnwys caneuon gwreiddiol o'u halbwm cyntaf fydd yn cael ei ryddhau yn 2025, gydag ambell i syrprèis. Gellir addasu'r set yn unol â gofynion a naws y digwyddiad.
Dim gofynion goleuo penodol, ond fyddwn ni methu darparu'r goleuadau ein hunain.
Gellir darparu system sain syml ein hunain ond bydd hyn yn golygu ffi ychwanegol.
Gellir darparu dyn sain a system sain fwy proffesiynol, ond bydd hyn yn golygu ffi ychwanegol.
Spec:
- 3 meicroffon llais
- Piano trydan
- Gitâr drydan
- Gitâr fas
- Drymiau
Gellir darparu poster a deunyddiau hyrwyddo eraill pe bai angen.
Band pum aelod o ardal y Bala sy'n cyfuno llais pwerus Elain Rhys gyda gitâr Math Thomas a’i chwaer Nel ar y bas, Gruffudd ab Owain ar y piano, a Cadog Edwards ar y drymiau.
Yn sgrifennu caneuon a pherfformio ers diwedd 2022 mae'r band yn ymfalchïo yng nghyfoeth cerddorol oesol eu bro, gan ddod ag amrywiaeth o elfennau a dylanwadau ynghyd i dorri eu cwys eu hunain.
Rhyddhawyd cyfres o dair sengl yn 2023 a 2024 - 'Llwybrau', 'Dylanwad', ac 'At Dy Goed'. Bydd eu halbwm cyntaf yn cael ei ryddhau yn 2025.