Enw'r Perfformiwr: Melda Lois
Enw'r Sioe: Melda Lois - Set gyda band
Disgrifiad y Sioe
Set o ganeuon gwreiddiol Melda Lois, wedi eu perfformio gyda'i band.
Angen i'r lleoliad ddarparu:
- system sain wedi ei osod ar gyfer dau neu dri llais, gitar electro-acwstig, keyboard, a drum kit
- drum kit (heb breakables)
Cantores-gyfansoddwraig o ardal Llanuwchllyn ydy Melda Lois, ond mae'n byw yng Nghaerdydd ers rhyw ddegawd bellach. Mae'n ysgrifennu caneuon sy'n bersonol ac acwstig, gydag ysbrydoliaethau gwerinol. Gall Lois roi perfformiad unigol mwy agos-atoch gyda dim ond hi â'i gitâr, neu ail-greu'r sŵn o'i EP cyntaf, Symbiosis, gyda band llawn.