Enw'r Perfformiwr: Bryn Fôn

Enw'r Sioe: Bryn Fôn - Acwsdic

Disgrifiad y Sioe

Set o ganeuon o wahanol gyfnodau yng ngyrfa gerddorol Bryn .O Crysbas yn y Saithdegau , Sobin yr Wythdegau a chaneuon mwy diweddar Bryn Fôn a'r Band ,ac ambell i glasur Gymraeg gan gerddorion eraill ynghyd ac ambell i gân werin draddodiadol . I gyd i gyfeiliant gitar acwsdig Mered Morris (Gynt o'r Smaeliaid , Bwchadanas , Band Rhiannon Tomos a Band Meic Stevens ) .

Delwedd ar gyfer sioe


Goleuo cyffredinol (General Cover ) . O leia dau sbot i'r cerddorion , ac os yn bosibl dwy stad (melyn/coch cynnes ac glas oer )
Llwyfan neu ardal berfformio bach . Lle i ddwy gadair a dau stand meicroffon . Bwrdd bychan ar gyfer y ddesg gymysgu sain .
Mae Bryn wedi bod yn perfformio ers 1976 gyda nifer o fandiau gwahanol yn cynnwys "Crysbas " , "Sonin a'r Smaeliaid" ac yn fwy diweddwr gyda "Bryn F03n a'r Band". Mae o bellach yn cynnig rhyw awr golew o fersiynnau acwsdig o rai o glasuron y bandiau uchod . Perffaith ar gyfer neuadd bentre fach neu Glwb Gwerin . Mae Bryn ,ynghyd a Rhys Parry (gitar) a John Williams (piano) yn perfformio fersiynna acwsdig o rai o glasuron y band . Yr hen a'r newydd , wedi ei symyleiddio ar gyfer cyflwyniad tawel agos atoch ar gyfer cynulleidfa yn eistedd a gwrando .