Enw'r Perfformiwr: Mewn Cymeriad/In Character
Enw'r Sioe: I am Lloyd George
Disgrifiad y Sioe
Drama Saesneg ei hiaith, un cymeriad, sy'n olrhain hanes David Lloyd George, un o Gymry Cymraeg mwyaf dadleuol ein hanes. Dewch gyda ni trwy ddrws rhif 10 Stryd Downing i gyfarfod y Prif Weinidog o Lanystumdwy. Cawn ein tywys trwy ddigwyddiaau mawr ei fywyd a'r dewisiadau a wnaeth ar y daith, gan bwyso a mesur y drwg a'r da.
Dim anghenion penodol
n/a
We can supply digital posters, pdf's, jpegs, and photography.
Mae Mewn Cymeriad yn gwmni theatr sy’n llwyfannu sioeau am gymeriadau a straeon o hanes Cymru
Pan gychwynnodd y cwmni nôl yn 2014, y bwriad oedd darparu sioeau rhyngweithiol, un dyn/un ferch, i ysgolion cynradd trwy Gymru gyfan, gan gynnig awr addysgiadol ac adloniadol i blant. Erbyn hyn, mae gan y cwmni ystod eang o gyflwyniadau dramatig ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol, yn blant ac oedolion, oll yn canolbwyntio ar gymeriad neu stori o hanes Cymru – o gyfnod y Celtiaid i gofnodi 20 mlynedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Man cychwyn yw’r sioeau ar gyfer astudiaeth bellach, ac i gydfynd â phob cymeriad mae pecyn addysgol/gweithgareddau wedi’i baratoi yn ofalus fel ei fod yn berthnasol i ofynion llythrennedd a rhifedd y cwricwlwm Cymreig, gan ddarparu adnoddau newydd i athrawon i addysgu ac i ysbrydoli plant i ddysgu mwy am hanes Cymru.