Enw'r Perfformiwr: Theatr Bara Caws

Enw'r Sioe: Dadra

Disgrifiad y Sioe

Mae Euros newydd ddod yn dad am y tro cynta gan bod Catrin ei wraig yn ddoctor ac Euros ddim.. mae Euros am aros adra i fagu’r bychan. Buan iawn y sylweddola Euros bod magu babi yn joban anodd, diflas ac eithriadol o unig. Ella nad ydy o wedi ei wneud i’r joban yma wedi’r cwbl.. Drama gomedi am rianta, gneud ffrindia a phwysigrwydd gadael y tŷ efo digon o glytia’! Awdur – Gruffudd Owen Cyfarwyddo – Ffion Dafis

Delwedd ar gyfer sioe


Ydyn - posteri a taflenni papur a digidol
Cwmni Theatr Cymuned Proffesiynol Cymraeg yw Theatr Bara Caws. O’i gartref yng Nghaernarfon mae’r cwmni wedi bod yn cynnig cynyrchiadau wedi eu cynllunio a’u perfformio yn arbennig i gynulleidfaoedd Cymraeg yn eu cymunedau ers dros 45 mlyned. Mae Theatr Bara Caws yn gwmni cydweithredol sydd â chnewyllyn parhaol o 5 aelod llawn amser cyflogedig. Gweinyddir y cwmni o dan oruchwyliaeth bwrdd rheoli, a chaiff ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Chyngor Gwynedd, Chyngor Môn, a nifer o Gynghorau Cymuned. Bu’n gofrestredig fel elusen ers 1977. Er mai Gwynedd yw ein dalgylch naturiol, mae Bara Caws yn teithio Cymru gyfan yn rheolaidd, yn perfformio mewn neuaddau pentref, canolfannau cymdeithasol, theatrau, ysgolion a chlybiau gan fynd â’n cynyrchiadau i ardaloedd sydd wedi eu hamddifadu o theatr broffesiynol fyw. Cynigir y perfformiadau am ffi resymol i unrhyw gymdeithas neu fudiad sydd yn dymuno gwahodd Bara Caws i’w hardal. Disgwylir i’r mudiadau sicrhau canolfan addas, dosbarthu tocynnau a hybu’r cynhyrchiad yn lleol gyda phosteri a deunydd marchnata a baratoir gan y cwmni. Mae unrhyw elw ddaw o’r nosweithiau yn mynd yn syth i achosion da lleol. Tros y blynyddoedd mae Bara Caws wedi creu rhwydwaith cryf o drefnwyr dros Gymru i gyd a phob amser yn awyddus i glywed gan unigolion sy’n fodlon mentro. Teimlwn fod y system hon o drefnu yn gweithio cystal gan fod y trefnwyr lleol gymaint mwy cyfarwydd â’u milltir sgwâr, ei disgwyliadau a’i chynulleidfaoedd. O ganlyniad mae trefnydd da yn gweithredu fel dolen gyswllt rhwng Bara Caws a’r gymuned, gan sicrhau cynulleidfaoedd cryfach a nosweithiau llwyddiannus. Mae Bara Caws yn llwyfannu o leiaf tri chynhyrchiad y flwyddyn, gyda’r arlwy yn cynnwys amrediad eang o ddeunydd, o gomedïau teuluol a dramâu ysgafn i sgwennu newydd heriol ac wrth gwrs ein sioeau clybiau. Nod y cwmni yw cyflwyno gwaith gwreiddiol a pherthnasol i’r trawstoriad ehangaf bosib.