Enw'r Perfformiwr: Sian James
Enw'r Sioe: Noson gyda Sian James
Disgrifiad y Sioe
Noson o gerddoriaeth gwerin a gwreiddiol i gyfeiliant y delyn a'r piano gan y gantores o Faldwyn.
Siân yw'r amlycaf o gantorion gwerin Cymru. Erbyn hyn mae hi wedi rhyddhau deg albym o'i gwaith – pedwar albym gyda Recordiau Sain; Birdman gyda BBC Worldwide (comisiwn arbennig o gerddoriaeth gwreiddiol a thraddodiadol i BBC2); Pur, Y Ferch o Bedlam, Adar ac Anifeiliaid, sef casgliad o hwiangerddi i blant, Cymun, Gosteg ar ei label Recordiau Bos.
Meddai Siân...
"Mae cerddoriaeth wastad wedi bod yn ran annatod o'm mywyd. Fe'm magwyd ar aelwyd gerddorol ac yn fuan iawn dechreuais ganu’r piano, y ffidil a'r delyn. Dechreuais gyfansoddi caneuon a chreu trefniannau newydd o ganeuon gwerin a darganfod pleser mawr wrth greu ac arbrofi wrth y delyn a'r piano.
Mae fy nhgariad at ganeuon gwerin yn gynhenid imi erbyn hyn ac er bod gennyf hoffter mawr at bob math o gerddoriaeth erys cerddoriaeth gwerin fel rhyw fath o rym bendigedig nad yw’n bosib dianc rhagddo. Cerddoriaeth fy ngwlad yw fy hafan rhag fedlam bywyd!"