Enw'r Perfformiwr: Al Lewis Band

Enw'r Sioe: Al Lewis Band

Disgrifiad y Sioe

Canwr/cyfansoddwr dwyieithog hynod boblogaidd a safonol yw Al Lewis. Hyd yn hyn mae Al wedi rhyddhau cyfanswm o 7 albyms, enwebwyd ei albwm Saesneg cyntaf ‘In the Wake’ ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig gyntaf ac mae ei albyms Cymraeg i gyd wedi treulio sawl wythnos yn #1 ar Siartiau Cymraeg BBC Cymru.

Delwedd ar gyfer sioe


Mae rhai’n meddu ar y ddawn o gyfansoddi caneuon melodig a fydd yn cael eu cofleidio gan gynulleidfaoedd. Mae rhai’n meddu ar y ddawn o ganu fel eos. Dengys ‘Ar Gof a Chadw’, albwm newydd sbon Al Lewis Band, fod y bachgen lwcus hwn yn meddu ar y ddau.