Enw'r Perfformiwr: Elinor Bennett
Enw'r Sioe: Edward Jones, Bardd Y Brenin / The King's Bard
Disgrifiad y Sioe
Darlith gyda cherddoriaeth i gofio EDWARD JONES, BARDD Y BRENIN (1752 - 1824) Telynor, casglwr, bardd, hanesydd, athro, cyfansoddwr. gan ELINOR BENNETT Rhannu hanes y bachgen bach o Landderfel, Gwynedd, a esgynnodd i fod yn delynor i'r Brenin Sior lV ar ddiwedd y 18fed ganrif yw'r ddarlith hon - gydag enghreifftiau o'i drefniadau o alawon Cymreig ar y Delyn Deires. Roedd Edward Jones yn delynor, athro a chasglwr cerddoriaeth o fri a'i ddymuniad angerddol oedd y byddai pobl Cymru, ganrifoedd ar ei ôl, yn dal i ganu'r alawon traddodiadol. Mae'n anhebyg iawn y byddem ni heddiw yn canu alawon fel Llwyn Onn, Ar hyd y Nos, Chodiad yr Ehedydd, heb waith gofalus Edward Jones yn casglu ac yn cyhoeddi cerddoriaeth a barddoniaeth a glywai yn ystod ei blentyndod. Bu "Bardd y Brenin" farw mewn tlodi ac unigrwydd yn ei lety yn Llundain. Bwriad y ddarlith/ddatganiad hon yw cofio am un o gymwynaswyr mwyaf cerddoriaeth Cymru, a diolch i Edward Jones am sicrhau ein bod ni heddiw yn mwynhau canu, a gwrando ar ein halawon traddodiadol.