Enw'r Perfformiwr: Pedair (Meinir Gwilym, Gwyneth Glyn, Gwenan Gibbard, Sian James)

Enw'r Sioe: Pedair

Disgrifiad y Sioe

Mae Pedair yn dwyn ynghŷd dalentau pedair o artistiaid gwerin amlycaf Cymru: Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym a Siân James. A'r pedair yn artistiaid rhyngwladol blaengar eu hunain, maent yn ffynnu wrth gydweithio a pherfformio'n fyw. Gyda'i gilydd dônt â bywyd newydd i ddeunydd traddodiadol gyda threfniannau newydd ar delynau, gitarau, piano ac acordion. Mae eu perfformiadau byw wedi cydio yn nychymyg a chalonnau cynulleidfaoedd, gyda'u harmonîau ysgubol, ymdriniaeth grefftus o'r traddodiad, ac agosatrwydd y caneuon maent yn eu cyfansoddi. Gwelodd eu recordiadau cyntaf olau dydd yn ystod y cyfnod clo, a buan y daeth eu caneuon yn hynod boblogaidd, ac yn ffynhonnell cysur a gobaith annisgwyl i nifer o bobol (yn cynnwys Pedair eu hunain!) A'u halbym cyntaf yn cael ei ryddhau gan Sain yn 2022, tydi asiad creadigol Pedair ond megis cychwyn cyrraedd ei lawn botensial.

Delwedd ar gyfer sioe