Enw'r Perfformiwr: Melda Lois
Enw'r Sioe: Melda Lois
Disgrifiad y Sioe
Artist indi-gwerin o ardal Llanuwchllyn sy'n plethu alawon gitâr 'fingerstyle' a geiriau barddonol.
Cantores-gyfansoddwraig o ardal Llanuwchllyn ydy Melda Lois, ond mae'n byw yng Nghaerdydd ers rhyw ddegawd bellach. Mae'n ysgrifennu caneuon sy'n bersonol ac acwstig, gydag ysbrydoliaethau gwerinol. Gall Lois roi perfformiad unigol mwy agos-atoch gyda dim ond hi â'i gitâr, neu ail-greu'r sŵn o'i EP cyntaf, Symbiosis, gyda band llawn.
