Enw'r Perfformiwr: Gwilym Bowen Rhys
Enw'r Sioe: Gwilym Bowen Rhys
Disgrifiad y Sioe
Brodor o Fethel yn Arfon (Gwynedd) yw Gwilym. Cafodd fagwraeth Gymraeg a Chymreig, yn cystadlu ar lwyfan Eisteddfodau lleol ers yn ddim o beth. Fe ymunodd gyda’i ddau gefnder a chyfaill i ffurfio’r band roc Cymraeg, ‘Y Bandana’ pan yn 14 oed (2007) a gyda’i ddwy chwaer; Elan a Marged i ffurfio’r grwp gwerin amgen ‘Plu’ yn 2012. Trwy berfformio yn ddi-dor ar lwyfannau led led Cymru a thu hwnt dros y ddegawd diwethaf, mae Gwilym wedi datblygu i fod yn ganwr a cherddor medrus a chydwybodol. Yn ogystal â cherddoriaeth, mae ganddo hefyd ddiddordeb angerddol mewn hanes a diwylliannau cynhenid, ac felly yn ddigon naturiol, fe dyfodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth traddodiadol ein gwlad. Yn ddiweddar mae wedi cael y fraint o deithio ledled y byd yn perfformio gyda phrosiectau NEXO yn yr Ariannin a TOSTA yng Nghymru, Iwerddon, Yr Alban, Cernyw, Frysl.ân, Galisia a Gwlad y Basg. Ers rhai blynyddoedd bellach mae wedi bod yn canu ac ymchwilio mewn i ganeuon ac alawon traddodiadol o Gymru a cheisio codi ymwybyddiaeth o'n cerddoriaeth a’n llenyddiaeth gynhenid odidog. ‘O Groth y Ddaear’ yw ei albwm unigol gyntaf sy’n a lansiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni, 2016.