Enw'r Perfformiwr: Kizzy Crawford
Enw'r Sioe: Kizzy Crawford
Disgrifiad y Sioe
Perfformiad unigol awr o hyd o rai o ganeuon Kizzy, gyda phedal dolen, gitâr ac offerynnau eraill. Perfformiad ar gael yn Gymraeg neu fel set ddwyieithog
Mae Kizzy Crawford yn ganwr, cyfansoddwraig a chynhyrchydd cerddorol yn adnabyddus am ei chymysgedd unigryw o jazz, gwerin a fynk. Rhyddhaodd ei albwm cyntaf gyda Freestyle Records yn 2019, gyda chefnogaeth o’r gronfa ‘PRS Women in Music’. Yn 2021, lansiodd ei albwm Gymraeg gyntaf, ‘Rhydd,’ trwy Recordiau Sain.
Mae cerddoriaeth Kizzy wedi derbyn cefnogaeth o BBC Radio 1, 2, 6Music, a mwy. Cafodd ei sengl “Progression” ei chynnwys ar restr chwarae Jo Whiley a Simon Mayo. Mae hi wedi perfformio mewn sawl gŵyl fawr yn y DU ac Ewrop, gan gynnwys Glastonbury, Womex, a Gŵyl Kuckkucksheim. Mae hi hefyd wedi perfformio sawl gwaith yng Nghanada, gan gynnwys yn yr ŵyl ‘M for Montreal’. Yn ddiweddar, rhyddhaodd ddau sengl newydd, “Cadwyni Yn Fy Mhen” a “Codwr Y Meirwon,” ac mae’n gweithio ar ryddhau mwy o gerddoriaeth yn 2025.
Mae hi wedi chwarae mewn lleoliadau nodedig fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi cefnogi artistiaid fel Joss Stone, Roy Ayers a Gruff Rhys. Mae Kizzy hefyd wedi ymddangos ar y teledu yn cynnwys yn y rôl ‘PC Emma Jones’ yn y ddrama BBC / S4C ’Keeping Faith’ / ‘Un Bore Mercher’.
Ymunodd Kizzy â ‘BDi Music’ yn 2014 ac mae pump o’i chaneuon yn rhan o’r maes llafur cerdd CBAC Lefel A. Yn 2017, cydweithiodd gyda’r pianydd jazz Gwilym Simcock ar yr albwm ‘Birdsong-Can Yr Adar,’ a theithiodd o gwmpas Cymru, yn ogystal â pherfformiad yng Ngŵyl Jazz Llundain - rhyddhawyd yr albwm gyda Basho Records.
Mae ei rolau theatrig diweddar yn cynnwys y cymeriad ‘Petula’ yn y sioe ‘Petula’ gyda Theatr Genedlaethol Cymru. Mae Kizzy hefyd wedi creu cerddoriaeth wedi’i gomisiynu, ar gyfer y ddogfen radio BBC - ‘June: Voice of a Silent Twin’, y sioe blant S4C - ‘TIPINI’ a mwy.