Enw'r Perfformiwr: Paid Gofyn

Enw'r Sioe: Paid Gofyn

Disgrifiad y Sioe

90 munud gan fand profiadol sy'n cynnig noson yn y Gymraeg neu'n ddwyieithog (Cym yn bennaf). Caneuon gwreiddiol, covers, addasiadau a threfniadau modern o hen alawon. Nid band twmpath ond band sy'n cynnig amrywiaeth hyblyg ar gyfer pob math o gynulleidfaoedd. Cerddoriaeth Gwerin Cyfoes a mwy! Telyn, Accordian, Allweddellau, Gitarau trydan ac Acwstig, Bas, Ukulele, Drymiau a lleisiau - 8 yn y band pan yn gyflawn. Yn ddiweddar y mae'r band wedi ymddangos yn Yr Eisteddfod Genedlaethol (Ty Gwerin) Y Sioe Fawr, FFiliffest ac wedi ymweld ag Iwerddon ddwywaith yn ddiweddar.Mae nifer o'u caneuon ar gael ar y llwyfannau ffrydio poblogaidd gan gynnwys Spotify, Apple ac ati. Mae safleoedd Facebook ac Instagram. Wedi ymddangos ar S4C a Radio Cymru

Delwedd ar gyfer sioe


Y mae wyth aelod Paid Gofyn yn byw yn ardal Caerffili a Chaerdydd Nid band twmpath mohonyn nhw ond yn hytrach band sy'n chwarae caneuon poblogaidd, adnabyddus yn ogystal a chaneuon gwreiddiol. Mae'r set yn amrywio o'r baledi i'r caneuon dawnsiadwy sy'n ffurfio ail ran y set. Maent wedi chwarae gydag Al Lewis a Dewi Pws ac wedi ymddangos yn Ffiliffest, Yr Wyl Ban Geltaidd, Yr Eisteddfod Genedlaeth, Y Sioe Fawr Llanelwy a Gwyl Gartholwg. Mae'r band yn hapus iawn i gynnal nosweithiau Cymraeg neu ddwyieithog yn ôl y gofyn. Y mae'r band yn cynnwys gitarau acwstig a thrydanol, dymiau/cajon, telyn, bas, ukulele bariton, acordian, allweddellau a lleisiau. Ar hyn o bryd y mae'r band yn chwarae gigs yn bennaf yn y De Ddwyrain ond maen nhw newydd ddychwelyd o daith yn Yr Iwerddon gan chwarae chwe gwaith yn Ngwyl Ymylol yr Wyl Ban Geltaidd.Dyma'r ail dro i'r band deithio i Iwerddon. Y mae CD(Bob Cae'r Mynydd) ac EP(PG) gan y Band ar gael ar y prif lwyfannau ffrydio.