Enw'r Perfformiwr: Ani Glass
Enw'r Sioe: Ani Glass
Disgrifiad y Sioe
Perfformiad tair-ieithog (Cymraeg, Cernyweg a Saesneg) sy'n plethu cerddoriaeth electronig pop ag alawon Celtaidd ei naws. Mae Ani yn aml yn perfformio gyda sielydd sy'n ychwanegi at yr ymdeimlad arallfydol sydd mor bresennol o fewn ei sioeau.
Erbyn diwedd mis Medi 2025 fe fyddai wedi cwblhau cynhyrchu elfen weledol i fy sioe fydd yn plethu BSL a chapsiynau.
Does gen i ddim gofynion penodol ond mi fyddaf angen siarad gyda'r technegydd sain cyn y sioe i sicrhau y bydd y goleuo yn cyd-fynd gyda naws y perfformiad.
Bydd angen technegydd sain a thaflunydd arnaf. Mae'r taflunydd yn hanfodol gan fy mod yn darparu delweddau sy'n helpu pobl fyddar i gael gwell mynediad at gerddoriaeth fyw.
Fe allaf greu poster os fydd angen ac yn hapus i hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ani Glass yw enw llwyfan y cerddor electronig, cynhyrchydd ac arlunydd, Ani Saunders o Gaerdydd. Mae Glass yn canu yn y Gymraeg a’r Gernyweg ac ym mis Mawrth 2020 rhyddhawyd ei halbwm gyntaf ‘Mirores’ a enillodd Albwm Cymraeg y Flwyddyn a chyrraedd rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig. Ym mis Medi 2020, fe wnaeth Glass rhyddhau EP llawn cymysgiadau o’r sengl Ynys Araul a oedd yn cynnwys fersiwn gan Orchestral Manoeuvres in the Dark. Bu Ani gynt yn aelod o The Pipettes, gan ymuno i recordio’r albwm Earth Vs. The Pipettes gyda’r cynhyrchydd Martin Rushent. Mi fydd ei hail albwm hir disgwyliedig yn cael ei ryddhau yn 2025.