Enw'r Perfformiwr: Theatr Cymru

Enw'r Sioe: Biwti a Brogs

Disgrifiad y Sioe

Tre Melys. Nawr. Brasgamwch yn gyffro i gyd i fyd arallfydol, hudolus gyda fersiwn newydd Gwawr Loader o stori’r Tywysog Broga gan y Brodyr Grimm. Dyma’r cyflwyniad perffaith i fyd theatr fyw i blant bach 3-6 oed yn llawn hwyl a hyd a lledrith a cherddoriaeth fyw gyda moeswers bwysig. Ar noswyl ei phenblwydd, mae Brenin a Biwti yn derbyn anrheg sbesial gan ei thad, y Brenin, yn ei pharti, sef pelen aur. Ond nid yw’n hapus. Mae’n ffwndrus ac yn llawn gofid wrth chwarae gyda’r bel ar ei phen ei hun ger y llyn. Mae’n cwrdd a Brogs, y broga, am y tro cyntaf a dyw hi ddim eisiau chwarae gyda Brogs. Ond, pan mae’n gadael i'r bel gwympo ar ddamwain yn y llyn, mae Brogs yn dod i'r adwy, ynei dysgu i nofio a chwrdd ag anifeiliaid y mor. Mae nhw’n ffeindio’r bel dan y dwr ac yn dod yn ffrindiau mawr. Wrth ffarwelio, mae Brogs eisiau mynd i gartref Biwti yn y Plas ond mae Biwti yn ofn ymateb ei thad a ddim yn ei wahodd. Trannoeth, mae Brogs yn galw er mwyn chwarae eto ac, er yn ofidius i ddechrau, mae Biwti yn mwynhau drwy chwarae gwisgo lan mewn dillad gwahanol i'w rhai brenhinol arferol anghyffyrddus. Wrth chwarae mae’n colli ei choron drom dro hyn ac mae ei hysbryd yn ysgafnhau. Wrth fynd yn fwy hapus mae’n troi’n froga. Mae Biwti yn panico ond wrth weld ei bod yn medru neidio yn uchel a bownsio’n gyflym a chwipio ei thafod a nofio yn rhydd mae’n teimlo’n hapusach nag erioed, ond yn ofni ymaten ei thad. Mae’n dychwelyd adref i'w gwrdd, ac mae ef wrth ei fodd am ei bod mor hapus a rhydd. Y foeswers yw bod angen bod yn driw i'ch hun er mwyn bod yn hapus ac ni all holl gyfoeth y byd brynu’r hapusrwydd hwnnw.

Delwedd ar gyfer sioe


Darparwn ein golau ein hunain a chael sgwrs am ddarpariaeth dechnegol eich lleoliad
Mae'r sioe yn addas ar gyfer gofod stiwdio ac uchafswm capasiti yw 150. Rydyn yn darparu seddau, meinciau, clustogau ar gyfer y gynulleidfa.
Byddwn yn darparu deunyddiau hyrwyddo. Bydd y sioe wedi ei pherfformio yn Nhachwedd a Rhagfyr yn y de Ddwyrain felly bydd gennym luniau ac asedau fideo.
"Theatr Cymru yw'r cwmni theatr cenedlaethol iaith Gymraeg. Mae'n creu rhaglen amrywiol o waith theatraidd eang ei apêl, sy'n cynnwys cynyrchiadau teithiol prif ffrwd, prosiectau cymunedol, profiadau theatr safle benodol, a gweithgaredd theatraidd dychmygus ac uchelgeisiol ledled Cymru a thu hwnt. Yn ogystal â chyflwyno theatr a thestunau clasurol a chydnabyddedig, mae'n arbrofi gyda dulliau amgen o gyflwyno theatr ac yn manteisio ar yr holl adnoddau sydd ar gael iddo er mwyn creu profiadau theatraidd sy'n cynnig i'w gynulleidfaoedd gyfleodd i chwerthin, i ddwys ystyried, i ddarganfod o'r newydd, i gael eu herio, i gwestiynu ac i ddathlu. Gyda phartneriaid creadigol o Gymru a'r Deyrnas Gyfunol, ynghyd â phartneriaid rhyngwladol, mae'n anelu'n gyson at ddatblygu cynulleidfaoedd newydd, platfformau amgen, a chyfleoedd ehangach i gyflwyno'i waith, gan ymdrechu i gryfhau rôl y theatr ym mywyd y genedl gyfan. Mae Theatr Genedlaethol Cymru hefyd yn cynnig amrywiaeth o brosiectau cyfranogol, sy'n cyfoethogi profiad y cyhoedd o waith y cwmni ac sy'n archwilio'r berthynas rhwng y gynulleidfa a'r gwaith creadigol ei hun. Trwy gyfrwng, er enghraifft, gweithdai a sesiynau trafod a holi, gweithgaredd digidol ac ar-lein, cyfryngau cymdeithasol, ynghyd â chyfleodd i gyfrannu'n uniongyrchol at brosiectau creadigol, mae'r cwmni'n ymdrechu'n gyson at ddatblygu ei berthynas gydag unigolion, sefydliadau a chymunedau o bob math ledled Cymru. - See more at: http://www.theatr.com/amdanom-ni/y-cwmni.aspx#sthash.LdlH520v.dpuf"