Enw'r Perfformiwr: Steve Eaves
Enw'r Sioe: Steve Eaves a Rhai Pobl
Disgrifiad y Sioe
Perfformiad gan Steve Eaves Eaves a'i fand "Rhai Pobl " o ganeuon gwreiddiol gan Steve Eaves Steve Eaves yn perfformio ar lwyfannau fel cerddor ers dros 40 mlynedd, a daeth i amlygrwydd fel bardd a gyhoeddodd ddwy gyfrol o’i waith, Noethni (1983) a Jazz yn y Nos (1986). Y blws yw’r dylanwad pennaf ar ei waith erioed, ac mae’r ddisgyblaeth o sgrifennu barddoniaeth gynnil yn dangos yn glir yn ei ganeuon, ac hefyd y dylanwadau o fyd y jas a sawl math o ganu roc a gwerin Mae Steve yn gitarydd acwstig medrus a chynnil ei arddull, sy’n canu gyda llais cynnes, agos-atoch-chi â rhywfaint o naws gras y blws.
Rydym yn gyfan gwbl ddibynnol ar y trefnwyr i sicrhau bod y lleoliad a ddewiswyd ganddynt ar gyfer y perfformiad yn hygyrch ac addas ar gyfer y grwpiau hyn.
Bydd angen offer goleuo i oleuo'r 5-6 cerddor fydd ar y llwyfan.
Nid ydym yn darparu offer goleuo.
Cyn pob gig byddwn yn darparu manyleb dechnegol i'r trefnydd, yn nodi cynllun y llwyfan lleoliad y cerddorion ar y llwyfan, ac yn manylu ar ba offerynnau cerdd a chwaraeir gan bob un, a pha offer sain yn union y bydd ei angen ar eu cyfer.
Nid ydym yn darparu offer sain / PA.
Hysbysebir pob gig gennym ar dudalen Facebook y band, "Steve Eaves a Rhai Pobl" ac ar Instagram.
Steve Eaves yn perfformio ar lwyfannau fel cerddor ers dros 40 mlynedd, a daeth i amlygrwydd fel bardd a gyhoeddodd ddwy gyfrol o’i waith, Noethni (1983) a Jazz yn y Nos (1986). Y blws yw’r dylanwad pennaf ar ei waith erioed, ac mae’r ddisgyblaeth o sgrifennu barddoniaeth gynnil yn dangos yn glir yn ei ganeuon, ac hefyd y dylanwadau o fyd y jas a sawl math o ganu roc a gwerin
Mae Steve yn gitarydd acwstig medrus a chynnil ei arddull, sy’n canu gyda llais cynnes, agos-atoch-chi â rhywfaint o naws gras y blws.