Enw'r Perfformiwr: Claire Mace
Enw'r Sioe: Sacred Herbs of Britain / Perlysiau Santaidd Prydain
Disgrifiad y Sioe
PERLYSIAU SANCTAIDD PRYDAIN - Ymunwch â Claire Mace am ailadroddiad dwyieithog o stori Olwen, merch y cawr yr oedd ei gwallt yn felynach na'r banadl a’i bochau’n gochach na blodau bysedd y cŵn. Ble bynnag mae’n cerdded mae’n gadael meillion gwyn o’i hôl. Hi yw arwres “Culhwch ac Olwen” stori o lawysgrifau canoloesol, Y Mabinogion. Dyma diriogaeth Olwen, a ysbrydolwyd gan lên gwerin o bob cwr o Gymru. Plethir mytholeg, hud a lledrith, llên lysieuol, chwedlau gwerin, storïau’r coed a phlanhigion ynghyd i ddarlunio'i thirwedd. Cafodd y perfformiad chwedleua traddodiadol hwn o’r stori ei ddatblygu diolch i Wobr Esyllt gan Chwedl, rhwydwaith o chwedlwragedd yng Nghymru
Electronic and print leaflets available, let me know how many you'd like.
Ganed y gantores, storïwraig, a dysgwraig Gymraeg, Claire Mace, ger Aberdeen, ond mae hi’n bellach wedi lleoli ym Methesda. Mae hi wedi’i hudo gan hen ganeuon a straeon a’u pŵer i’n helpu ni i ddod o hyd i’n ffordd yn yr amser presennol.