Enw'r Perfformiwr: Ynys
Enw'r Sioe: Ynys
Disgrifiad y Sioe
Sioe byw y band Ynys fel rhan o'u taith 'Dosbarth Nos'.
PA gyda monitors
4 mic llais a stands
Yn ddelfrydol, Drymiau a bass amp
Person sain ar y noson
Ynys yw prosiect cerddorol Dylan Hughes, gynt o Race Horses a Radio Luxembourg.
Yn bumawd byw, mae Ynys yn cyfuno harmonïau dros drac sain hudolus o beiriannau llinynnau o’r 70au, synths o’r 80au a gitâr fuzz.
Rhyddhaodd Ynys eu halbwm cyntaf yn Nhachwedd 2022 ar Recordiau Libertino. Albwm o ganeuon cyfoethog o bop seicadelig bregus a melancolaidd.
Bu caneuon Ynys yn draciau'r wythnos ar BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales, Amazing Radio, ac mae'r band wedi chwarae sesiynau byw i raglen Marc Riley ar BBC 6 Music.
Roedd albwm cyntaf Ynys ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2023, a bydd eu hail albwm allan ar 12 Gorffennaf 2024.
http://www.ynysmusic.com