Enw'r Perfformiwr: Gwenan Gibbard
Enw'r Sioe: Gwenan Gibbard
Disgrifiad y Sioe
Yn delynores a chantores draddodiadol, mae Gwenan yn un o artistiaid gwerin amlycaf Cymru. Wedi graddio mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru Bangor a chwblhau gradd feistr yno mewn perfformio ac ymchwil ym maes cerddoriaeth Cymru, aeth ymlaen i astudio’r delyn yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, ac yna dychwelodd i’w hardal enedigol ym Mhwllheli. Bu’n enillydd ym mhrif gystadlaethau telyn a chanu’r Eisteddfod Genedlaethol, Yr Wyl Gerdd Dant a’r Wyl Ban Geltaidd yn Iwerddon, a bu’n cynrychioli Cymru mewn gwyliau megis Gwyl Ryng-Geltaidd Lorient (Llydaw), Cyngres Delynau’r Byd (Dulyn), Gwyl Gymreig Gogledd America, Celtic Colours (Nova Scotia, Canada), Gwyl Delynau Rhyngwladol Caeredin a Celtic Connections (Glasgow). Mae wedi rhyddhau tri albwm, Y Gwenith Gwynnaf, Sidan Glas, ac, yn fwyaf diweddar ‘Cerdd Dannau’, tri casgliad gyda’r chwarae a’r canu wedi ei wreiddio’n ddwfn yng nghalon y traddodiad ac eto’n ffres a chyfoes. Mae Gwenan hefyd yn arbenigo yn y grefft o ganu Cerdd Dant hunan-gyfeiliant. Yn ddiweddar, ffurfiodd ddeuawd newydd gyda’r gantores Meinir Gwilym, gan gyfuno eu lleisiau a’u hofferynnau i greu sain ffres a chyffrous. Bu Gwenan yn brysur yn perfformio’n unigol hefyd gan ymddangos yng nghyngerdd agoriadol Gwyl Womex yng Nghaerdydd, dan gyfarwyddyd artistig Cerys Matthews.