Enw'r Perfformiwr: Krystal S. Lowe
Enw'r Sioe: Mud Pies
Disgrifiad y Sioe
Pre-recorded Audio Description available through website link on audiences' own devices.
Yes. Digital promotional materials available. Photos and trailer.
"Dawnsiwr, coreograffydd, awdur a chyfarwyddwr ydi Krystal S. Lowe a aned yn Ynysoedd Bermwda ac sydd â’i chartref yng Nghymru, sy’n perfformio ac yn creu gweithiau theatr ddawns i’r llwyfan, i fannau cyhoeddus ac i ffilm sy’n chwilio themâu hunaniaeth groestoriadol, iechyd a llesiant meddwl, ac ymrymuso i’w herio ei hun a chynulleidfaoedd tuag at fewnsyllu a newid cymdeithasol. Mae Krystal yn frwd dros gyfannu hygyrchedd a chwilio gwaith amlieithog gyda chanolbwyntio’n benodol ar Iaith Arwyddion Prydain, Cymraeg a Saesneg.
Mae ganddi yrfa helaeth yn perfformio ac yn teithio gyda Ballet Cymru drwy hyd a lled y Deyrnas Unedig, Tsieina a Bermwda; gyda chwmni syrcas Citrus Arts, Ransack Dance, Theatr Iolo, The Successors of the Mandingue, a Laku Neg. Perfformiodd Krystal i’r National Gallery i 'HOME zero' a grëwyd gan: Love Ssega, yn ddarn comisiwn i Nesta a National Gallery X ac Opera i’r Sgrîn Theatr Gerdd Cymru Somehow.
"