Enw'r Perfformiwr: Sara Davies

Enw'r Sioe: Sara Davies - Enillydd Cân i Gymru

Disgrifiad y Sioe

Perfformiad byw o ganeuon Cymraeg gwreiddiol a hefyd rhai gan artistiaid o Gymru.

Delwedd ar gyfer sioe


Bydd angen digon o olau i weld y piano (keyboard)
Byddaf angen digon o le ar gyfer speaker a keyboard. Rwy’n hapus i ddefnyddio system sain neu biano sydd yn barod ar gael (gallwn drafod hwn wrth drefnu).
Mae Sara yn gantores a chyfansoddwraig proffesiynol yn wreiddiol o Hen Golwyn. Ar ôl astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, symudodd i Orllewin Cymru a gweithio fel athrawes cerddoriaeth am bedair blynedd. Yn dilyn buddugoliaeth yng nghystadleuaeth Cân i Gymru, fe gymerodd Sara y naid i yrfa lawn amser fel cantores proffesiynol. Yn ddiweddar, bu Sara yn wyneb ymgyrch i gael Cymru i gystadlu fel ei chenedl ei hun yn yr Eurovision Song Contest. Mae hi hefyd newydd ysgrifennu cân ar gyfer BAFTA Cymru a ryddhawyd yn ddiweddar.