Enw'r Perfformiwr: Lo-fi Jones
Enw'r Sioe: Lo-fi Jones
Disgrifiad y Sioe
Band gwerin-indi-pop sydd wedi'u leoli ym Machynlleth yw Lo-fi Jones. Cafodd y band eu sefydlu yn 2020 gan dau frawd barfog o Fetws-y-coed, Liam a Siôn Rickard. Maent yn plethu straeon o gariad a cholled mewn tirwedd sy'n newid yn barhaus, gan fynd a'r gynulleidfa ar daith hwylus ac annisgwyl. Ers hynny, mae Lo-fi Jones wedi bod yn brysur yn perfformio yn dafarnau, clybiau a gwyliau o gwmpas Cymru, ac yn Lloegr, Iwerddon ac Awstria hefyd, yn cynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, Sesiwn Fawr Dolgellau, ŵyl Ban-geltaidd, Bearded Theory, Gŵyl Ffrinj Abertawe, Gŵyl Tân yn y Mynydd, Gŵyl y Pethau Bychain, Folk Marathon Vienna 2025, a Noson Y Fari Lwyd yn Ninas Mawddwy. Cafodd y band llwyddiant yn y gystadleuaeth canu draddodiadol yn yr ŵyl Ban-geltaidd 2024, a hefyd yn Frwydr y Bandiau Gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol (2023), a buon nhw'n cystadlu yn rownd derfynol Can i Gymru 2023. Fel deuawd, rhyddhawyd eu EP cyntaf yn Dachwedd 2022. Mae sawl cân o'r EP wedi cael ei chwarae ar Radio Cymru, a chafodd "Slag Heap" ei enwebu yn y categori "Cân Saesneg gorau" yn y Gwobrau Gwerin 2023. Yn 2024, derbyniodd Lo-fi Jones cymorth ariannol gan BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru trwy'r Gronfa Lansio Gorwelion. Gyda'r cymorth hwn, buon nhw'n rhyddhawyd eu hail EP, Bad Technology, yn haf 2024. Mae'r sengl "Bad Technology" wedi bod yn boblogaidd iawn yn eu hardal leol a thu hwnt. Mae caneuon Lo-fi Jones yn cael ei chwarae ar Radio Cymru, Radio Dyfi, a Radio Rhyngrwyd, ac maent wedi cael adolygiadau gwych yn blogiau cerddoriaeth yn cynnwys Y Selar a Fresh on the Net.