Enw'r Perfformiwr: Theatr na nÓg

Enw'r Sioe: We Need Bees / Gwarchod y Gwenyn Gweithgar

Disgrifiad y Sioe

Mae Gwarchod y Gwenyn gan Katherine Chandler, yn adrodd stori’r hyn sy’n digwydd pan fydd y gwanwyn wedi deffro ac mae’r holl fywyd gwyllt anhygoel yn dihuno ar ôl gaeaf hir ac oer, gan gynnwys ein cyfaill Bron, y wenynen fêl. Ymunwch â hi a’i chyfeillion gwych wrth iddi rannu’i hanturiaethau cyffrous o beillio byd rhyfeddol y blodau a’r planhigion. Cawn gyfarfod â hen ffrind Bron, Bertie Bee, ar waelod pentwr y cwch gwenyn prysur. Mae’n treulio’i ddyddiau’n peillio hen afalau diflas, er y byddai’n llawer gwell ganddo fod yn rhydd i beillio blodau gwylltion yn lle. Mewn eiliad o wrthryfel, mae’n gadael y cwch gwenyn, gan roi’r holl haid mewn perygl – gan gynnwys ei ffrind gorau Bron. Nawr rhaid i Bertie fod yn ddewr. Beth fydd yn digwydd nesaf? Pwy yw’r Cranc-Gorryn dirgel? A fydd Bertie’n llwyddo ac yn achub ei ffrindiau? Gyda cherddoriaeth fyw a gyfansoddwyd gan Barnaby Southgate.



Yes we will be producing flyers and poster for the production
Rydym yn creu theatr wreiddiol ar gyfer cynulleidfaoedd y DU a ledled y byd o’n cartref yng nghymoedd gwyrdd Cymru. Ein hangerdd? Straeon gwych. Ers 40 mlynedd, rydyn ni wedi adrodd hanesion arobryn sy’n tanio dychymyg yr ifanc, wedi datgelu straeon na fyddech chi’n credu eu bod nhw’n wir ac wedi creu ffuglen hudolus trochol ar gyfer y llwyfan, i gyd â cherddoriaeth wreiddiol wych. Rydym yn gweithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae ein theatr yn cofleidio natur ddwyieithog ein gwlad, yn dathlu’r ddwy iaith ac yn annog a chefnogi’r rhai sy’n dysgu Cymraeg. Ein cenhadaeth yw rhoi cyfle i bobl o bob oed a chefndir brofi hud theatr fyw. Ein gwerthoedd craidd yw Llawenydd, Pobl a Rhyfeddod