Enw'r Perfformiwr: Theatr Iolo

Enw'r Sioe: Baby Bird and Bee / Babi Aderyn a Gwenynen

Disgrifiad y Sioe

Dewch i ymlacio gyda’ch babi tra bod y garddwr yn brysur wrth ei waith yn plannu hadau ac yn dyfrio’r ardd brydferth. Yn fuan bydd aderyn, gwenynen ac wrth gwrs y babanod yn gwmni hyfryd i’r garddwr hapus. Gyda’ch gilydd byddwch yn darganfod golygfeydd a synau’r ardd a bydd eich rhai bychain wrth eu boddau! Ar ddiwedd y sioe bydd cyfle i chi a’ch babi aros i chwarae gyda gwrthrychau sydd wedi’u dewis yn arbennig. Mae Sarah Argent a Kevin Lewis yn wneuthurwyr theatr arobryn sydd wedi creu nifer o sioeau hudolus ar gyfer babanod. Mae ganddynt ddawn arbennig o ddal sylw ac adlonni babanod a phlant ifanc. Perfformir Baby, Bird & Bee yn Saesneg a pherfformir Babi, Aderyn a Gwenynen yn Gymraeg. Os ydych chi’n dysgu Cymraeg neu’n awyddus i ddysgu ambell i air Cymraeg newydd gyda’ch babi/babanod mae Babi, Aderyn a Gwenynen yn ffordd berffaith o gyflwyno’r iaith i rai bychain. Cyfyngiad Oedran: 6 - 18 mis

Delwedd ar gyfer sioe


yes