Enw'r Perfformiwr: Khamira

Enw'r Sioe: Khamira

Disgrifiad y Sioe

Mae'r band cerddoriaeth byd Indo-Gymreig Khamira yn cynnwys 3 cerddor o Gymru a 3 o India, mae Khamira yn perfformio 'Cerddoriaeth Byd Byr-fyfyr' – yn cyfuno cerddoriaeth werin Gymreig, cerddoriaeth glasurol Hindustani, jazz a roc. Mae Khamira wedi perfformio mewn Gwŷliau ledled y byd o India i Dde Korea ac yn 2024 fe wnaethon nhw deithio India am y trydydd tro. Ma' cerddoriaeth Khamira yn gymysgedd llwyr o Gerddoriaeth Byd – dychmygwch gerddoriaeth sinematig Pat Metheny a band ffync Miles Davis o'r 70au wedi ei plethu gyda alawon gwerin Cymru a cherddoriaeth glasurol India.



Bydd angen PA a gŵr sain
Yes. I can supply photos and written blurb in both Welsh and English