Enw'r Perfformiwr: Elinor Bennett
Enw'r Sioe: LLAIS HEN DELYNAU / VOICE OF OLD HARPS
Disgrifiad y Sioe
LLEISIAU HEN DELYNAU Cyfle i wrando ar gerddoriaeth hyfryd o 'r 18fed ga'r 19eg ganrif ar ddwy delyn hanesyddol a wnaed yn y cyfnod. " Wedi canu darnau gan Handel a John Parry ar y delyn fodern am flynyddoedd, rwyf yn awyddus i rannu'r hwyl a gefais wrth ddysgu canu'r un gerddoriaeth ar yr offerynnau gwreiddiol. Dibynnais ar yr hen delynau, a llawysgrifau gwreiddiol o'r cyfnod - i ddangos y ffordd imi. Gwaith cariad oedd y broses o ganfod sain wirioneddol y cyfnod, ac mae rhai o'r technegau yn wahanol iawn i'n cyfnod ni. Rwyf wedi cael cyngor gan sawl cerddor sydd wedi arbenig o fewn maes cerddoriaeth cynnar, ac yn ddiolchgar am hynny. Mae'r stori'n cychwyn gyda'r Delyn Deires a ddatblygwyd yn yr Eidal yn ystod y Baroc, ac a oedd yn boblogaidd yng nghyfnod Handel. Gyda thair rhes o dannau, roedd yn delyn gymleth ac yn ddrud i roi tannau arni - ac fe gafodd ei hanghofio yng ngwledydd Ewrop. Ond yn rhyfeddol, mabwysiadwyd hi gan yr hen delynorion Cymreig, a pharhaodd fel telyn y werin yng Nghymru. Gwnaed fy nhelyn deires i gan y gwneuthurwr telynau enwog, John Richard o Lanrwst, tua 1755. Yn ystod diwedd y 18fed ganril, di-sodlwyd yr hen Delyn Deires yn y mwyafrif o wledydd Ewrop gan delynau pedal mecanyddol newydd o Ffrainc a'r Almaen, a oedd yn galluogi telynorion i newid traw y tannau gyda'u traed. Roedd y telynau cynnar, addurniedig hyn yn boblogaidd iawn ymysg merched cyfoethog a ffasiynnol trwy Ewrop - i arddangos eu harddwch! Y gwneuthurwr telynau enwocaf oedd Sebastian Erard a arferai weithio yn Llys Brenhines Ffrainc, Marie Antoinette, cyn iddo orfod dianc o Baris i Lundain yn ystod y Chwyldro Ffrengig. Gwnaed fy nhelyn i ganddo yn ei weithdy yn Great Marlborouigh Street, Llundain yn 1807. Mae'r rhaglen yn cynnwys cerddoriaeth gan Handel, John Parry Ddall, Edward Jones (Bardd y Brenin) Rossetti, Dussek a Spohr.