Enw'r Perfformiwr: Georgia Ruth

Enw'r Sioe: Georgia Ruth

Disgrifiad y Sioe

Bydd Daf Owain yn cefnogi Georgia Ruth. Cerddor o Aberystwyth yw Georgia Ruth, sy'n defnyddio dylanwadau gwerin i greu sain gwbl unigryw. Enillodd ei halbwm cyntaf, Week of Pines, y Wobr Gerddoriaeth Gymraeg yn 2013 ac ers hynny mae hi wedi cydweithio hefo'r Manic Street Preachers, ac wedi perfformio'n rhyngwladol. Yn gynharach eleni, rhyddhawyd Cool Head. Dyma bedwerydd albwm y cerddor, sy'n dogfenni siwrne cathartig trwy'r tywyllwch i'r bore newydd. Mae 'Cool Head', ymadrodd byddai ei thad yn ei ddweud yn aml mewn cyfnodau anodd, yn gasgliad o ganeuon sy'n plethu dylanwadau Americana gyda pop fwy arbrofol. Wedi'i recordio yn stiwdio Sain gyda band arbennig, trefniannau llinynol gan Gruff Ab Arwel, a llais Euros Childs ar ambell drac, dyma albwm hynod bersonol, un sydd wastad yn symud tua'r goleuni.

Delwedd ar gyfer sioe


y lleoliad ond dylunio ganddo ni
Yn gerddor o Aberystwyth, mae Georgia Ruth wedi hen arfer gweu ei dylanwadau gwerinol i greu seinweddau unigryw. Enillodd ei halbwm cyntaf, 'Week of Pines', y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2013, yn ogystal â chyrraedd dwy o restrau fer Gwobrau Gwerin BBC 2. Wedi iddi gydweithio â'r Manic Street Preachers, aeth Georgia ymlaen i ryddhau ei hail a'i thrydydd albwm, 'Fossil Scale' a 'Mai', cyn rhyddhau dwy EP ychwanegol. 'Cool Head' yw pedwerydd albwm Georgia gafodd ei hysgrifennu yn y flwyddyn yn dilyn salwch ei gwr, Iwan, ac mae'n cyfleu'r hyn a disgrifia Georgia fel "taith hir drwy’r nos i’r bore". Mae 'Cool Head', ymadrodd byddai ei thad yn ei ddweud yn aml, yn gasgliad didwyll o ganeuon sy'n plethu dylanwadau sy'n ymestyn o Americana i faledi nodedig y 60au.