Enw'r Perfformiwr: Hen Fegin
Enw'r Sioe: Noson Werin yng Nghwmni Hen Fegin
Disgrifiad y Sioe
Mae Hen Fegin yn cynnig noson (neu sesiwn) hwyliog o ganu a chwarae caneuon ac alawon gwerin traddodiadol a gwreiddiol. Bydd pob perfformiad yn gyfuniad o ganeuon i gyfeiliant gitâr, banjo, mandolin, ffidil, acordion, telyn deires a bas dwbl ynghyd ag ambell i gân ddigyfeiliant a darnau offerynnol.
Ffurfiwyd Hen Fegin yn 2015, ac maent wedi bod yn adlonni cynulleidfaoedd ar draws Cymru a thu hwnt gyda’u sain gwerinol unigryw o Faldwyn ers hynny. Mae cerddoriaeth gartrefol y band yn gyfuniad o’r hen a’r newydd, yn plethu’r traddodiadol a’r gwreiddiol. Er mai pedwarawd o gogie Maldwyn oedd y band yn wreiddiol, mae’r grŵp bellach wedi ehangu i chwe aelod.
Aelodau’r band yw Roy Griffiths (llais, gitâr a banjo) a Jac Gittins (llais, mandolin, pib a bodhrán) – cyn aelodau o’r triawd gwerin Plethyn, Idris Morris Jones (llais a ffidil) - cyn aelod o Pigyn Clust a Gwerinos , Bryn Davies (llais ac acordion) –cyn aelod o Ci Du a Phen Tennyn, Alun Hart ( bas dwbl) - cerddor profiadol a chyn aelod o sawl band a Cadi Glwys Davies (telyn deires) - enillydd cenedlaethol ar y delyn deires a chlocsio.
Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf 'Hwyl i Ti Ngwas' yn 2019 a'u sengl 'Fflam y Llan' yn 2023 ar label Recordiau Maldwyn. Maent wrthi’n gweithio ar eu hail albwm ac yn recordio yn Stiwdio Sain gan obeithio ei rhyddhau eleni.
