Enw'r Perfformiwr: Robat Arwyn
Enw'r Sioe: Y gair tu ôl i'r gân
Disgrifiad y Sioe
Perfformiad o rai o ganeuon mwya adnabyddus Robat Arwyn, gan gynnwys Anfonaf Angel, Benedictus, Yfory a nifer o ganeuon eraill, ynghyd â'r stori y tu ôl i'r creu.
Bydd angen piano.
Yn enedigol o Dalysarn, Dyffryn Nantlle, graddiodd Robat Arwyn mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn 1980 cyn ennill Diploma mewn Llyfrgellyddiaeth yng Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru, Aberystwyth yn 1981. Bellach mae'n Brif Lyfrgellydd Cyngor Sir Ddinbych, ac yn byw yn Rhuthun gyda'i wraig, Mari a'i blant, Elan a Guto.
Mae'n aelod o Gôr Rhuthun ers 1981, ac yn cyfeilio i'r côr a chyfansoddi ar ei gyfer ers 1987. Yn drist iawn, ym mis Hydref 2007, bu farw Morfydd Vaughan Evans, sefydlydd ac arweinydd y côr ers y dechrau, ac mae Arwyn bellach wedi cymryd y awenau.
Bu hefyd yn aelod o Trisgell rhwng 1982 ac 1995. Triawd a ffurfiodd gyda dau ffrind oedd yn canu wrth ei ochr yn rhengoedd y baswyr yng Nghôr Rhuthun, sef Arwyn Vaughan a Llion Wyn.